The Pit Pony’s Journey: From Pits to Paradise
Ym mis Ebrill 2023, bu Amgueddfa Pontypridd yn cydweithio gyda thair Ysgol Gynradd leol; Ysgol Gynradd Coedpenmaen, Ysgol Gynradd Coed-y-Lan ac Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James i ddysgu am fywydau a gwaddol merlod y pwll ym Mhyllau Glo De Cymru. Dysgodd y plant am yr amodau yr oedd merlod y pwll yn gweithio ac yn byw ynddynt, y dynion a fyddai wedi gofalu amdanynt a'r rôl bwysig a chwaraewyd ganddynt yn natblygiad diwydiannol ein cenedl. I gloi'r prosiect, croesawom Flossy and Boo Theatre Company, y bardd Mike Church a'r canwr-gyfansoddwyr lleol Matthew Frederick a Jessiie Jenkins, i hwyluso diwrnod gweithdy celfyddydol mynegiannol, lle gallai'r plant gyfuno eu holl wybodaeth flaenorol a chael hwyl yn creu darnau drama, cerddi a chân grŵp ar y cyd, i gyd er anrhydedd y merlod pwll.
Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl diolch i'r gefnogaeth a'r cyllid a dderbyniwyd gan Gronfa’r Celfyddydau, ac rydym wrth ein bodd eu bod wedi hoffi ein prosiect gymaint, fel eu bod wedi dewis i’w gynnwys ar eu gwefan fel enghraifft i amgueddfeydd eraill. Da iawn i bawb fu'n cymryd rhan!
The Pit Pony’s Journey: From Pits to Paradise
In April 2023, Pontypridd Museum collaborated with three local Primary Schools; Coedpenmaen Primary, Coed-y-Lan Primary and Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James to learn about the lives and legacy of the pit ponies in the South Wales Collieries. The children learnt about the conditions the pit ponies worked and lived in, the men who would have looked after them and the important role they played in our nation’s industrial development. To conclude the project, we welcomed Flossy and Boo Theatre Company, poet Mike Church and local singer-songwriters Matthew Frederick and Jessiie Jenkins, to facilitate an expressive arts workshop day, where the children could pool all of their prior knowledge and have fun creating drama pieces, poems and a collective group song, all in honour of the pit ponies.
This project was made possible thanks to the support and funding received from the Arts Fund, and we are delighted that they loved our project so much, that they chose to feature us on their website as an example to other museums. A huge well done to all involved!
Share
RECENT POSTS
