Mae Amgueddfa Pontypridd yn adrodd hanes ardal a drawsnewidiwyd o gymuned cwm tawel i dref ddiwydiannol, ffyniannus yng nghanol ardal lofaol De Cymru.
Find out all about the history of a thriving industrial town in the heart of the valleys
Darganfod sut gyrraedd yma
Mae Amgueddfa Pontypridd, agorwyd ym 1986 yn Nhabernacl; hen Gapel Cymreig y Bedyddwyr, yn adrodd hanes ardal a drawsnewidiwyd o gymuned cwm tawel i dref ddiwydiannol, ffyniannus yng nghanol ardal lofaol De Cymru. O gwmpas y diwydiant hwn y tyfodd ddiwylliant bywiog o gerddoriaeth, celf, chwaraeon a gweithgareddau gwleidyddol sy’n dal i gael dylanwad ar y dref heddiw.
Mae Amgueddfa Pontypridd yn falch iawn o gynnal ...
Wrth bacio ar gyfer taith arall allan ar y ffordd, mae Flossy a Boo dod o hyd i hen gês dirgel yng nghefn eu cart, ac felly yn dechrau direidi, hud ac anhrefn. Ymunwch â ni am straeon gwych, campau chwerthinllyd a llu o gymeriadau rhyfedd a rhyfeddol, i gyd yn cael eu chwarae gan y ddeuawd rhemp. Yn llawn mympwy a swyn, mae'r cynhyrchiad hudolus hwn yn cyfuno hud adrodd straeon â cherddoriaeth fyw, gan eich gadael yn gwenu o glust i glust.
Mae hwn wir yn ddathliad o'r llawenydd a geir mewn profiadau a rennir a’r hud wrth adrodd straeon. Mae'r cês anghofiedig yn aros am...
Dewch un, dewch i gyd, a gadewch i'r cyfareddu ddechrau!
Sioe gyfeillgar i'r teulu.
Argymhellir ar gyfer plant 5 mlynedd ac uwch ond mae croeso i bawb.
Archebwch drwy'r ddolen EventBrite!
Diolch!
All Rights Reserved | Pontypridd Museum