Roedd David Roberts CBE yn nofiwr Paralympaidd o Gymru, ac mae’n un o’r Paralympiaid mwyaf llwyddiannus erioed o Brydain. Ganed David ym Mhontypridd ar 25 Mai 1980 a chafodd ddiagnosis o barlys yr ymennydd pan oedd yn ddeg oed. Oherwydd ei ddiagnosis, cafodd ei annog i gymryd rhan mewn nofio fel dull amgen o ffisiotherapi.
Buan y datgelwyd ei ddawn ac yn 13 oed, cynrychiolodd Gymru yn Glasgow gan ennill y pedair ras y bu’n cystadlu ynddynt. Cynrychiolodd Gymru am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth Nofio Anabl Ewrop yn yr Almaen, 1999, a daeth yn nofiwr Paralympaidd am y tro cyntaf yng Ngemau Paralympaidd Sydney 2000, yng nghategori S7 SB7 SM7, lle enillodd dair medal aur, tair medal arian ac un fedal efydd. Parhaodd David â'i yrfa yng Ngemau Paralympaidd 2004 yn Athen gan ennill pedair medal aur arall ac un fedal arian. Yn y Gemau Paralympaidd yn 2008 yn Beijing, torrodd record y byd 100m dull rhydd. Cafodd David ei ddewis i gario'r faner yn y seremoni gloi yn Beijing oherwydd ei lwyddiant yn y pwll.
Mae David wedi cael gyrfa helaeth, yn nofio ac yn cystadlu ledled y byd.
David Roberts CBE, is a retired Welsh Paralympic swimmer, and is one of Britain’s most successful Paralympians. David was born in Pontypridd on 25th May 1980 and diagnosed with cerebral palsy when he was ten. Due to his diagnosis, he was encouraged to participate in swimming as an alternative method of physiotherapy.
His talent was soon revealed and at the tender age of 13, he represented Wales in Glasgow winning all four races in which he competed. He first represented Britain at the European Disabled Swimming Championship in Germany, 1999, and debuted as a Paralympic swimmer at the Sydney 2000 Paralympics, in category S7, SB7, SM7, where he won three golds, three silvers and one bronze medal. David continued his career at the 2004 Paralympics in Athens winning a further four golds and one silver medal. At the 2008 Paralympics in Beijing, he broke the 100m freestyle world record. David was selected to carry the flag at the closing ceremony in Beijing due to his accomplishments in the pool.
David has had an extensive career, swimming and competing all around the world.
In recognition of his accomplishments and influence, David has been nominated for Ponty and Proud 2023.