Hanes Pontypridd

HANES PONTYPRIDD

Saif tref Pontypridd yn y man lle mae’r Afon Taf yn cwrdd â’r Afon Rhondda. Tyfodd y dref gan lewyrchu o ganol y 19eg ganrif ymlaen fel tref farchnad ar gyfer y cymoedd cyfagos tra chwyddodd y diwydiant glofaol nodedig yn y cymoedd hynny

CYFLWYNIAD

Cyn hyn roedd yr ardal yn un wledig a’r diwydiant ffermio oedd bywoliaeth y mwyafrif o’r boblogaeth fechan, wasgaredig leol. Adeiladwyd strwythur enwocaf yr ardal, sef yr Hen Bont yn ystod y cyfnod hwn. 

Fe’i codwyd ym 1756 gan saer maen a gweinidog lleol ddysgodd ei hun sut i adeiladu, sef William Edwards. Hi oedd y bont â’r bwa hiraf yn Ewrop, a bu felly am 80 mlynedd wedyn.  

1756

Erbyn 1900 roedd yr ardal wedi’i thrawsnewid yn llwyr i un ddiwydiannol. Ym 1794 agorwyd Camlas Morgannwg rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd a lifai drwy’r lleoliad canol, sef Pontypridd. 

1794

Ym 1818 denwyd yma’r diwydiant enfawr cyntaf sef Gwaith Cadwyni Brown Lenox; cwmni barhaodd yn y dref hyd at y flwyddyn 2000. 

1818

Pan agorwyd Rheilffordd Cwm Taf ym 1841, eto’n rhedeg o Ferthyr Tudful i Gaerdydd roedd hyn yn gynsail i hanner canrif o dwf syfrdanol pan chwyddodd y boblogaeth o tua 3,000 i dros 32,000 erbyn 1890 gan greu tref ffyniannus Cyfnod Fictoria. 

1841

O tua 1850, ac am ganrif wedi hynny, yr hyn fu’n tra arglwyddiaethu tref Pontypridd a’r cyffiniau oedd y diwydiant glo. Daeth Pontypridd yn dref chwyldroadol, brysur ddenodd pobl o ardaloedd eraill o Gymru, Lloegr, Iwerddon a phellach na hynny. 

1856

Ym 1820 pentref o siaradwyr Cymraeg oedd Pontypridd ond erbyn 1900 roedd yn dref boblog o breswylwyr oedd gan fwyaf yn siarad Saesneg. 

Bu rhai o drigolion y dref, rhai fel Evan Davies greodd y cylch gorsedd ar Gomin Pontypridd, Dr. William Price (arloeswr amlosgi ym Mhrydain), ac Evan a James James (cyfansoddwyr ein hanthem genedlaethol, ‘Hen Wlad fy Nhadau’) yn brwydro yn erbyn y newid ieithyddol, diwylliedig gan sefydlu mudiad neo-dderwyddol y 19eg ganrif fu’n dyheu a hyrwyddo’r oes ddiwylliedig euraid Gymreig.  

1900

Mae bron yr holl dystiolaeth faterol o anterth y diwydiant glo ym Mhontypridd a’r cymoedd cyfagos wedi peidio â bod. Mae hagrwch y gweithgareddau diwydiannol wedi mynd a’r llethrau’n wyrdd unwaith eto, ond proses boenus oedd y broses o symud i economi ôl -ddiwydiannol. Mae’r boblogaeth erbyn heddiw yn profi o ystod eang o amrywiol swyddi ac yn teithio ym mhellach i’w gweithle.
    
Mae hanes y gorffennol byr ond prysur hwn wedi rhoi i Bontypridd y statws o dref farchnad sy’n gwasanaethu’r hen bentrefi diwydiannol cyfagos ac o’i mewn mae cymuned lle mae newid yn digwydd yn y cydbwysedd diwylliedig. 

HEDDIW

Share by: