Gall y dyfodol edrych fel byd llawn dychryn ac ansicrwydd. Weithiau gall ymddangos fel petai’n ymrithio’n fawr yng nghynt na’r disgwyl, a bod pethau tu hwnt i reolaeth.
Mae newid yn rhywbeth parhaol a rhagfynegi’r dyfodol yn rhywbeth allai adael i broffwydi edrych yn ffôl. Mae cysylltiad diamheuol rhwng gwleidyddiaeth, cymdeithas, economi, technoleg a’r amgylchfyd a ffactorau eraill hefyd.
Ond drwy edrych ar yr hyn y dysgodd y gorffennol ni, oes yna ffordd y gallwn gynllunio ar gyfer blynyddoedd i ddod a gadael ôl ar hanes yr un pryd? Mae gyda ni gyfle i wneud hyn a throsglwyddo a siapio treftadaeth ar y ffordd yr ydym yn ymddwyn nawr ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Yn yr arddangosfa hon rydym yn edrych ar sut y mae ein cymuned yn defnyddio’r term; ‘Meddwl yn Fyd-eang, Gweithredu’n Lleol’ i gynllunio ar gyfer ein dyfodol ac ateb tri chwestiwn allweddol. Mae yna ffordd y gallwch chi gyfrannu hefyd! Sylwch ar ddolenni cyswllt i’n polau ar-lein, cysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol ac anfonwch unrhyw syniadau neu sylwadau gan ddefnyddio’r ffurflen gysylltu ar waelod y dudalen.
Mae’r hyn sy’n digwydd yn y byd o’n cwmpas yn barod wedi siapio’r arddangosfa hon. Oherwydd llifogydd Chwefror a’r pandemig Coronavirus presennol, nid oedd yn bosib creu arddangosfa faterol arferol ein Hamgueddfa, felly rydym wedi’i rhoi ar-lein gan greu ein harddangosfa rithwir cyntaf - yn ein byd digidol cynyddol ydy hyn yn beth da neu ddrwg?
Gadewch i ni wybod beth ydych chi’n feddwl...
PERSPECTIF BYD-EANG
1.
MEWN AMSER 100 MLYNEDD SUT Y BYDDWN YN CYMRYD GOFAL Y BYD?
Mae plant Ysgol Gynradd Parc Lewis a grŵp amgylcheddol Ffrindiau Ifanc y Ddaear Pontypridd wedi bod yn gweithio gyda’r artist, Catrin Doyle i feddwl sut y bydd ein byd yn edrych yn y dyfodol gan greu...
Bu disgyblion Maesycoed a Ffrindiau Ifanc y Ddaear yn gweithio gyda’r artist Anne-Mie Myn Melis yn fforio syniadau ynghylch bioamrywiaeth a sut y mae holl bethau byw yn perthyn i’w gilydd.
Rhowch sylw manwl i linell amser y bont enfys i ddarganfod mwy am hanes gweithfeydd, cludiant a phethau eraill ym Mhontypridd. Yna, meddyliwch sut y byddech chi’n llenwi’r llinell amser ar gyfer y 100 mlynedd nesaf...
Mae’r dderwen, sef symbol o gryfder a dycnwch yn gallu byw am fwy na 100 o flynyddoedd. Coeden bywyd! Fel ein tref ni, mae wedi bod, ac fe fydd, yn dyst i lawer o newidiadau...