Mae’r bont droed un bwa eiconig hon yn pontio’r afon Taf ym Mhontypridd. Fe’I hadeiladwyd ym 1756 gan y pensaer a’r gweinidog William Edwards ar ôl tair cynnig aflwyddiannus.
Agorwyd y parc yn swyddogol fel parc coffa rhyfel i gofio am y golled enbyd o gymaint o ddynion lleol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Heddiw, mae’r parc wedi cadw’r rhan fwyaf o’i nodweddion gwreiddiol. Mae cofeb yma yn y parc i gyfansoddwyr Anthem Genedlaethol Cymru, ‘Hen Wlad fy Nhadau’, sef Evan a James James, a nepell mae safle seindorf a hefyd Lido Genedlaethol Cymru yn ogystal â phriodweddau diddorol eraill.
Adeiladwyd Lido Genedlaethol Cymru ym 1927 yn null y cyfnod. Mae yma dri phwll sy’n cael eu gwresogi I 28 gradd, felly os dewiswch i fynd i nofio yna ar Ddydd San Steffan, bydd y dŵr yn bleserus i fynd iddo. Roedd ein heicon enwog, Syr Tom Jones yn arfer ymweld â’r Lido’n rheolaidd a hefyd cafodd Jenny James flas ar nofio yma’n ifanc, sef y person cyntaf o Gymru I nofio’r Sianel Seisnig.
Saif Marchnad Pontypridd ar yr un safle ers 1805. Mae’r farchnad wedi ffynnu ac wedi denu llaweroedd o’r cymoedd cyfagos bob dydd Mercher a dydd Sadwrn. Er ei bod wedi newid cryn dipyn ers 1985, mae’r farchnad yn dal i gael ei chynnal ddwywaith yr wythnos ac yn ymestyn allan i Stryd y Farchnad. Y tu mewn mae amrywiaeth helaeth o stondinau sy’n gwerthu pethau o delesgopau i berlysiau ac o facwn i ddillad gwely.
Ewch am dro uwch ben Pontypridd i weld yr olygfa ysblennydd ar y daith fechan naturiol a hanesyddol hon.
Ewch am dro drwy’r dref gan sylwi ar y bensaernïaeth sy’n dal yn dystiolaeth o’r cyfoeth oedd yn llifo drwy Bontypridd o’i diwydiant lleol yn y 19eg a’r 20fed ganrif. O hen Gapel Tabernacl, lle mae’r Amgueddfa heddiw, i’r tirlun gwyrdd hyfryd sy’n amgylchynu’r ardal drefol mae llawer mwy o olygfeydd hyfryd ar gael • Ewch am dro drwy’r dref gan sylwi ar y bensaernïaeth sy’n dal yn dystiolaeth o’r cyfoeth oedd yn llifo drwy Bontypridd o’i diwydiant lleol yn y 19eg a’r 20fed ganrif. O hen Gapel Tabernacl, lle mae’r Amgueddfa heddiw, i’r tirlun gwyrdd hyfryd sy’n amgylchynu’r ardal drefol mae llawer mwy o olygfeydd hyfryd ar gael https://bit.ly/2DG6I9n
Dilynwch y llwybr sy’n cysylltu’r pyllau glo cyntaf yng Nghwm Rhondda gyda Chamlas Morgannwg a’r diwydiannau ym Mhontypridd• Dilynwch y llwybr sy’n cysylltu’r pyllau glo cyntaf yng Nghwm Rhondda gyda Chamlas Morgannwg a’r diwydiannau ym Mhontypridd.
Mae’r trywydd hwn yn dangos sut y trodd pentref diwydiannol yn dref myfyrwyr, o waith Tunplat teulu Crawshay i Brifysgol De Cymru drwy leoliadau o ddiddordeb cymdeithasol, diwylliedig a hanesyddol.
Mae’r daith 12 milltir (18km) hon, sef taith gerdded gymedrol i egnïol yn rhoi i chi olygfeydd godidog dros dref Pontypridd hyd at Fannau Brycheiniog o’r mannau uchaf uwch ben y bryniau. Rydym yn argymell y dylech wisgo esgidiau cerdded neu esgidiau cryf. Er mwyn trefnu teithiau byrrach gallwch rannu Cylchdaith Pontypridd I bedair taith fer.
Gyda phellter o 55 milltir / 88Km (gan fwyaf oddi ar y briffordd ac ymhell o draffig), llwybr Taff rhwng Caerdydd a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae’r trywydd hwn yn rhywbeth i’w argymell yn gryf i feicwyr (a cherddwyr!). Mae’n mynd drwy Bontypridd gerllaw’r Hen Bont enwog a heibio’r degau o dai stryd lliwgar sy’n addurno’r cwm. Fel man hanner ffordd, mae Pontypridd yn fan delfrydol i gael gorffwys a dewis ardderchog o fwytai.
Diolch!
All Rights Reserved | Pontypridd Museum