

Mae Amgueddfa Pontypridd, agorwyd ym 1986 yn Nhabernacl; hen Gapel Cymreig y Bedyddwyr, yn adrodd hanes ardal a drawsnewidiwyd o gymuned cwm tawel i dref ddiwydiannol, ffyniannus yng nghanol ardal lofaol De Cymru. O gwmpas y diwydiant hwn y tyfodd ddiwylliant bywiog o gerddoriaeth, celf, chwaraeon a gweithgareddau gwleidyddol sy’n dal i gael dylanwad ar y dref heddiw.

BETH SY'N DIGWYDD

Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru
Mae gennych chi tan 27 Ebrill i ymweld â chwe amgueddfa ar draws Cymru!
Mae’n ffordd wych o ymweld â llawer o amgueddfeydd gwych Cymru – a chael cyfle i ennill gwobr arbennig!
Gallwch gasglu eich pasbort o unrhyw amgueddfa sy’n cymryd rhan yn yr Her.
Sut i gymryd rhan?
01
Casgla dy basbort o unrhyw amgueddfa isod gan gofio i ofyn am stamp!
02
Cei di gyfle ennill sgwter micro wrth ymweld â CHWE amgueddfa erbyn diwedd gwyliau’r Pasg (dydd Sul 27 Ebrill 2025).
03
Llenwa’r ffurflen yn y linc i nodi dy lwyddiant ar ôl mynychu chwe amgueddfa.
#LlwybrauHanesCymru
Pob lwc!
NEWYDDION







